Prosiect amgylcheddol yw Cymunedau Gwyrdd sydd yn cael ei redeg ar y cyd gan Uned Addysg An Taisce yn Iwerddon a Cadwch Gymru’n Daclus. Ariennir y rhaglen Cymunedau Gwyrdd gan grant o Raglen Interreg 4A Iwerddon a Chymru gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Yn Iwerddon daw’r arian cyfatebol gan Adran yr Amgylchedd, Treftadaeth a Llywodraeth Leol. Trwy Cymunedau Gwyrdd rydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol gwirfoddol yn Iwerddon a Chymru er mwyn mynd ati i wella bioamrywiaeth lleol a lleihau ôl troed carbon gweithgareddau’r grwpiau ar yr un pryd. Dysgu mwy...
Os yw eich grŵp cymunedol am ymuno â Cymunedau Gwyrdd neu os ydych am gychwyn grŵp newydd o wirfoddolwyr cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth. Dysgu mwy am ymuno â Cymunedau Gwyrdd. Ar ôl i chi siarad â ni am eich grŵp, mae’r ffurflenni sydd eu hangen i ymuno ar gael yma
Medrwch ddod o hyd i grwpiau sydd yn rhedeg prosiectau yn eich ardal chi Cliciwch yma
Yma medrwch ddysgu mwy am Uned Addysg An Taisce Yma medrwch ddysgu mwy am Cadwch Gymru’n Daclu
“Fe wnaethon ni ddysgu llawer a chawsom ein hysgogi, ac fe ddaethom i gysylltiad ag eraill sydd yn cymryd rhan yn y prosiect” meddai un o’r rhai a oedd yn bresennol yn Seminar Bioamrywiaeth Dinbych y Pysgod, Sir Benfro ym Mai 2010